Text Box: Ken Skates AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

 

1 Awst 2016

 

Annwyl Ken,

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18

Hoffwn eich gwahodd i gyfarfod o’r Pwyllgor ddydd Mercher 2 Tachwedd 2016 i roi tystiolaeth mewn cysylltiad â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.

Disgwylir i’r sesiwn dystiolaeth gymryd awr, gan ddechrau am 9.30am. Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddarparu papur dwyieithog i’r Pwyllgor mewn perthynas â’r gyllideb ddrafft erbyn 21 Hydref 2016. Byddai’r Pwyllgor yn arbennig o ddiolchgar o gael gwybodaeth am y materion cyllidebol a amlygir yn yr atodiad i’r llythyr hwn.

Yn gywir

 

Bethan Jenkins AC

Cadeirydd


 

Atodiad

 

Cais am wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i lywio gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu o graffu ar Gyllideb Ddrafft 2017-18

 

Cyflwyniad y gyllideb

Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi croesawu’r gwelliannau a wnaed i’r dull o gyflwyno’r gyllideb yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae wedi argymell y dylai gwaith barhau i wella tryloywder o ran sut y mae dyraniadau’r gyllideb yn cyd-fynd ag ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu.

Fel y digwyddodd ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft y llynedd, hoffai’r Pwyllgor gael y llinellau gwariant unigol sy’n berthnasol i’r Pwyllgor hwn, ar gyfer eich portffolio chi.

Blaenoriaethau ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru

O ran ymrwymiadau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru sydd o fewn eich portffolio chi ac sy’n berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor hwn, byddai’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth mewn cysylltiad â’r canlynol:

 

Polisïau allweddol

Yn dilyn ei waith craffu ar y gyllideb ddrafft y llynedd, hoffai’r Pwyllgor gael gwybodaeth am y canlynol yn benodol:

·         cyn penderfynu ar ddyraniadau’r gyllideb, gwybodaeth am natur y ddeialog a gawsoch â’r sefydliadau a’r rhanddeiliaid sy’n gyfrifol am weithredu polisïau o fewn eich portffolio;

·         sut yr effeithiwyd ar y dyraniadau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn sgil rhoi’r Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ar waith, a gwybodaeth ynglŷn â’r cysylltiad rhwng hyn a chanlyniadau’r Strategaeth hyd yma a’i chanlyniadau yn y dyfodol;

·         sut yr effeithiwyd ar y dyraniadau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn sgil gweithredu’r darpariaethau o fewn Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru);

·         manylion am i ba raddau y mae Cadw wedi llwyddo i gyrraedd ei dargedau i gynhyrchu mwy o refeniw;

·         y newyddion diweddaraf ar hynt adolygiad y Farwnes Randerson o’r gwasanaethau treftadaeth yng Nghymru, a’r graddau y bydd arian ar gael gan Lywodraeth Cymru i weithredu ei argymhellion;

·         manylion ynglŷn â sut y penderfynwyd ar y dyraniadau ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

·         gwybodaeth am lefel y cyllid a ddarperir i weithredu’r strategaeth Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli a Strategaeth Amgueddfeydd Cymru, gan gynnwys y cysylltiad rhwng hyn a chanlyniadau’r strategaethau hyd yma a’u canlyniadau yn y dyfodol;

·         sut y mae argymhellion yr Adolygiad Arbenigol o ddarpariaeth amgueddfeydd lleol wedi dylanwadu ar ddyraniadau sy’n ymwneud â’r sector amgueddfeydd (yn benodol yr argymhellion i sefydlu cyrff rhanbarthol a’r gronfa gweddnewid);

·         sut y mae’r angen parhaus i fynd i’r afael â’r ffactorau sy’n rhwystro pobl rhag cyfranogi yn y celfyddydau, ac i hyrwyddo cyfleoedd i gymryd rhan yn y celfyddydau, wedi effeithio ar ddyraniadau’r gyllideb ar gyfer y celfyddydau;

·         gwybodaeth am y lefelau o gyllid a ddarparwyd ar gyfer cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddefnyddio diwylliant i fynd i’r afael â thlodi (sef y rhaglen Cyfuno), a sut y mae hyn yn ymwneud ag asesu llwyddiant y rhaglenni hyn hyd yma;

·         y blaenoriaethau o ran polisi’r cyfryngau a darlledu yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu fforwm cyfryngau annibynnol, a sut y caiff y rhain eu hadlewyrchu yn nyraniadau’r gyllideb;

·         pa waith a gyflawnwyd i fonitro a lliniaru effaith y gostyngiad yng nghyllid llywodraeth leol ar ddarparu gwasanaethau lleol o fewn maes eich portffolio (e.e. gwasanaethau llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau; sefydliadau llai a sefydliadau’r trydydd sector sy’n gweithio ym meysydd yr amgylchedd hanesyddol a’r celfyddydau).

Ar gyfer pob polisi, fel y bo’n briodol, hoffai’r Pwyllgor weld:

·         manylion am gostau gweithredu’r polisïau hyn yn ystod cyfnod y gyllideb ddrafft a / neu unrhyw waith a wnaed i asesu’r costau hynny;

·         gwybodaeth ynglŷn â sut y bwriedir monitro a gwerthuso gweithrediad y polisi, a’r canlyniadau cysylltiedig, i ddangos gwerth am arian.

 

Mae’r Pwyllgor hefyd yn awyddus i weld sut y mae cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac ystyriaeth i’r Gymraeg wedi dylanwadu ar ddyraniadau’r gyllideb.

Gwariant ataliol

Fel y llynedd, mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn trafod gwariant ataliol fel rhan o’i waith craffu ar gyllideb ddrafft 2017-18. Y diffiniad o wariant ataliol a fabwysiedir i’r diben hwn yw:

…gwariant sy’n canolbwyntio ar atal problemau ac sy’n lleddfu’r galw am wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrryd yn gynnar, a thrwy hynny sicrhau gwell canlyniadau a gwerth am arian.

Gan gofio’r diffiniad hwnnw, hoffai’r Pwyllgor gael gwybodaeth am y canlynol:

·         y gyfran o’r gyllideb a ddyrannwyd i fesurau gwariant ataliol;

·         manylion am bolisïau neu raglenni penodol yn eich portffolio sy’n berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor hwn, y bwriedir iddynt fod yn ataliol; a

·         sut y caiff gwerth am arian rhaglenni o’r fath ei werthuso, gan ganolbwyntio’n arbennig ar beth yw’r mewnbynnau penodol a’r canlyniadau a fwriedir.

 

Darparu ar gyfer deddfwriaeth

Hoffai’r Pwyllgor hefyd weld:

·         gwybodaeth am y graddau y mae unrhyw ddeddfwriaeth Gymreig sydd wedi’i phasio, sydd wrthi’n cael ei phasio, neu y mae wedi’i chynllunio yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn debygol o gael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar eich portffolio ym mlwyddyn ariannol 2017-18.

·         gwybodaeth am yr effaith y bydd unrhyw ddarnau o ddeddfwriaeth y DU yn eich maes portffolio yn ei chael ar y gyllideb.